Wrth i GanBwyll geisio lleihau nifer y bobl a leddir neu a anafir yn ddifrifol drwy orfodaeth ac addysg, mae'n bwysig ein bod yn nodi ac yn deall pwy yw’r bobl sydd mewn mwyaf o berygl oherwydd gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd er mwyn gallu defnyddio ein hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol.
Mae GanBwyll yn canolbwyntio ar y grwpiau agored i niwed canlynol sy'n dangos yr angen am addysg.
- Gyrwyr Ifanc a'u teithwyr
- Gyrwyr Proffesiynol
- Beicwyr Modur
- Marchogion
- Cerddwyr