Mae gyrru ar draffyrdd yn golygu traffig trymach a chyflymder uwch. Isod mae peth cyngor i helpu sicrhau taith ddiogel:
- Gwnewch yn siŵr fod eich cerbyd yn addas i’r ffordd fawr cyn cychwyn.
- Cadwch i’r chwith oni bai eich bod yn goddiweddyd.
- Os ydych chi’n goddiweddyd nifer o gerbydau arafach, gall fod yn fwy diogel i aros yn y lôn ganol neu’r lôn allanol na newid lonydd yn barhaus.
- Cadwch eich pellter a gwyliwch eich cyflymder.
- Defnyddiwch y llain galed mewn argyfwng yn unig – os oes angen stopio am unrhyw reswm arall – i ddarllen map neu i ddefnyddio eich ffôn symudol, er enghraifft – stopiwch mewn gwasanaethau.
- Byddwch yn ofalus iawn lle mae gwaith ar y ffordd: arafwch ac ewch i’r lôn gywir mewn da bryd. Canolbwyntiwch ar y ffordd o’ch blaen, nid ar y gwaith ffordd. Cadwch at y cyfyngiad cyflymder a chadwch bellter diogel rhag ofn y bydd ciwiau o’ch blaen.