Mae cerdded yn ffordd wych o fynd o gwmpas ac mae'n darparu ystod eang o fuddion iechyd ac amgylcheddol. Trwy gydol y cyfnodau clo gwelsom gynnydd yn nifer y bobl sy'n cerdded wrth iddynt wneud eu hymarfer corf dyddiol.
Yn anffodus, mae rhywfaint o risg i gerdded hefyd, a gyda cherddwyr yn cael eu hystyried yn ddefnyddwyr bregus ar y ffyrdd, mae rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud i ofalu am gerddwyr p'un a ydyn nhw'n cerdded i'r ysgol, i'r siopau neu am hamdden.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:
“Mae cerddwyr yn ddefnyddwyr bregus ar y ffyrdd a gofynnwn i bob modurwr, fod yn ymwybodol o gerddwyr a disgwyl yr annisgwyl bob amser.
Efallai y bydd plentyn yn rhedeg allan ar ôl pêl, gall cerddwr oedrannus gymryd mwy o amser nag yr ydych chi'n meddwl i groesi'r ffordd yn ddiogel, gallai unrhyw beth ddigwydd a gallai hyd yn oed y pethau lleiaf sy'n tynnu sylw arwain at wrthdrawiad difrifol. ”
Rydyn ni i gyd yn cofio y llinell diogelwch cerddwyr “Edrychwch, edrychwch, ac edrychwch eto”. Cofiwch am y llinell defnyddiol hwn, a dysgwch hyn i'ch plant ar bob croesfan ffordd.
Yn 2019, anafwyd 3,847 o gerddwyr ar ffyrdd Cymru, sy'n gyfateb i 12% o'r holl anafiadau ar ein ffyrdd. Mae 81% o wrthdrawiadau yn ymwneud â cherddwr yn digwydd pan oedd y cerddwr yn croesi'r gerbytffordd.
Gadewch inni ofalu am gerddwyr drwy arafu, trwy fod yn ymwybodol o'n hamgylchedd, trwy fod yn amyneddgar; a thrwy chwarae ein rhan gallwn leihau nifer y cerddwyd yr anafwyd ar ffyrdd Cymru.