Mae cerdded yn ffordd wych o deithio gydag ystod eang o fanteision iechyd ac amgylcheddol. Yn ystod y cyfyngiadau cynfod clo cyntaf yn 2020 gwelsom gynnydd yn nifer y bobl oedd yn cerdded wrth iddynt gymryd eu hymarfer corff dyddiol. Mae cynnydd tebyg wedi bod ei weld yn ystod y trydydd cyfnod clo yma yng Nghymru.
Yn anffodus, mae rhywfaint o risg ynghlwm wrth gerdded hefyd, ac yn anffodus, dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y cerddwyr sydd wedi eu niwieidio mewn gwrthdrawiadau, yn enwedig yn ardaloedd Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru.
Yn 2019 anafwyd 3,847 o gerddwyr ar ffyrdd Cymru, yn gyfateb i 12% o'r holl anafiadau ar ein ffyrdd. Mae 81% o wrthdrawiadau oedd yn ymwneud â cherddwr yn digwydd pan oedd y cerddwr yn croesi'r ffordd.
Mae cerddwyr yn defnyddio ffyrdd yn agored i niwed a gofynnwn i bob modurwr, wrth iddynt wneud eu teithiau hanfodol, fod yn ymwybodol o gerddwyr gan ddisgwyl yr annisgwyl bob amser.
Gall plentyn redeg allan yn mynd ar ôl pêl, gall cerddwr oedrannus gymryd mwy o amser nag y credwch i groesi'r ffordd yn ddiogel; gallai unrhyw beth ddigwydd a gall y difyrwch lleiaf arwain at wrthdrawiad difrifol.
Dywedodd Rhingyll Jason Williams, Cydlynydd GanBwyll Heddlu Gwent:
"Yn fodurwr, beiciwr neu gerddwr, mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r ffordd yn hyderus ac yn ddiogel. Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mewn gwrthdrawiadau yn ymwneud a cherddwyr ar ffyrdd Gwent, a gyda mwy o bobl yn cerdded fel ymarfer corff yn ystod cyfyngiadau y cyfnod clo, gofynnwn i holl ddefnyddwyr y ffordd chwarae eu rhan i gadw ei gilydd yn ddiogel."
Dywedodd Rhingyll Mel Brace, Cydlynydd GanBwyll Heddlu Gogledd Cymru:
"Mae mynd allan i gerdded neu feicio yn ystod y cyfnod clo presennol yn bwysig i les corfforol a meddyliol pobl. Cymerwch ofal pan fyddwch allan ar eich ymarfer corff dyddiol a byddwch yn ymwybodol o'ch amgylchedd. Gallwn ni gyd gyfrannu at ddiogelwch ein ffyrdd ac yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni ofalu am ein gilydd."
Felly, p'un a ydych chi'n gerddwr yn cymryd eich ymarfer corff dyddiol neu fodurwr sy'n teithio ar daith hanfodol; drwy sefyll lan dros arafu lawr, a bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd gallwn ni gyd gyfrannu at gadw holl ddefnyddwyr y ffordd yn ddiogel ar ffyrdd Cymru.