Yn dilyn astudiaeth a wnaed dros gyfnod o flwyddyn gan dasglu oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r heddlu, awdurdodau lleol, arbenigwyr iechyd cyhoeddus a grwpiau diogelwch ar y ffyrdd, ymysg eraill, mae'r Senedd wedi cytuno i fwrw ymlaen â gweithredu deddfwriaeth i greu cyfyngiad cyflymder diofyn o 20mya ar gyfer Cymru gyfan mewn ardaloedd preswyl.
Yn y dyfodol, yn lle bod y cyfyngder cyflymder diofyn yn 30mya, gyda'r awdurdodau'n gorfod cyflwyno'r achos i fynd yn is, bydd y cyfyngder cyflymder rhagosodedig yn 20mya, a byddai angen gwneud achos i fynd yn uwch.
Mae GanBwyll yn falch o fod wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ynghylch cyflwyno cyfyngiadau cyflymder rhagosodedig 20mya ar ffyrdd trefol yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf. Ein nod strategol yw lleihau nifer yr anafiadau ar ffyrdd Cymru ac rydym yn cefnogi pob ymdrech ac ymgyrch sydd wedi'u profi i helpu i leihau nifer yr anafiadau a marwolaethau ar ein ffyrdd. Yn dilyn y ddadl yn y Senedd ddydd Mercher 15ed o Orffennaf, Mae GanBwyll yn edrych ymlaen i barhau i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a'r holl bartneriaid a chydweithwyr eraill wrth i ni ddatblygu cynllun strategol ar gyfer gweithredu terfynau cyflymder rhagosodedig 20mya yng Nghymru.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.